Gair gan y Garddwr - Tymor y Gaeaf

Chwefror | 2020

Yn ystod tymor y Gaeaf mae’r coed grawnwin a’r coed afalau yn segur / cysgu.

Dechrau’r gaeaf cafodd y coed grawnwin eu tocio, a’r canghennau gorau wedi eu dewis ar gyfer tyfiant yn y gwanwyn. Er bod y gwinwydd i weld yn cysgu yn y gaeaf, mae’n stori wahanol o dan y pridd. Yn lle cyfeirio eu hegni tuag at gynhyrchu ffrwyth neu dyfiant dail newydd, yn y gaeaf mae gwinwydd yn cyfeirio eu hynni i’w system gwreiddiau. Bydd y gwreiddiau’n tyfu, gan amsugno maeth y pridd i gadw’r winwydden yn gryf yn ystod y gaeaf, wrth baratoi ar yr un pryd ar gyfer y gwanwyn ac egin newydd.

Ar hyn o bryd rydym wrthi yn tocio’r coed afalau yn y berllan. Nod tocio’r coed yn y gaeaf yw siapio’r goeden, cael gwared ar dyfiant marw, a chadw tyfiant 1 oed y bydd afalau yn tyfu arnynt yn y dyfodol. Yr adeg gorau i wneud hyn yw rhwng Tachwedd a Mawrth, rhwng cwymp y dail a’r blagur yn agor.

DSCF1078DSCF1079DSCF1076


© 2022 Hawlfraint Pant Du. Gwefan gan Delwedd