TEITHIAU TYWYS GYDA’R NOS
Mae’n bosib trefnu ymweld gyda’r winllan a’r berllan a chael taith dywys gyda’r nos. Mae’r digwyddiad yma yn breifat ar gyfer grŵp o 20 o bobl a mwy.
Gellir cyfuno y daith dywys gyda phryd o fwyd ysgafn yn Nhŷ Bwyta Pant Du.
Yn dilyn y daith bydd swper ysgaf - Ham Rhost Traddodiadol wedi’i weini gyda Salad, Colso Cartref a Thatws Newydd / Trionglau Tatws
Dewis o Bwdin, a Te neu Goffi.
£20.00 y person
Mae’r digwyddiad yma yn hynod boblogaidd gyda cymdeithasu fel Merched y Wawr a Sefydliaid y Merched.
Pa ffordd well i dreulio noswaith yn yr Haf, gyda criw o ffrindiau yn cerdded o amgylch y winllan yn mwynhau dysgu am y hanes, cyn eistedd i lawr i flasu’r cynnyrch a pryd ysgafn o fwyd.
E-bostiwch post@pantdu.co.uk neu ffonio 01286 881819 i holi am drefnu noson.
Cliciwch yma i gweld y poster.