Wythnos Gwin Cymru 2020

Cystadleuaeth Farddoni

Fel rhan o’r gweithgareddau yn arwain at Wythnos Gwin Cymru beth am gystadleuaeth go wahanol, cystadleuaeth cyfansoddi cerddi o dan y thema ‘Gwin Cymru’.

Bydd bardd y gerdd fuddugol yn derbyn 3 potel o Win Pant Du.

Er mwyn cymryd rhan anfonwch eich cerddi atom ar post@pantdu.co.uk.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 02/08/20

Dyma gerddi i’ch ysbrydoli gan Gwyn Thomas a Jan Morris, a sgwennwyd am Pant Du.

Cerddi

Am fwy o wybodaeth am Wythnos Gwin Cymru (27 Gorffennaf - 2 Awst 2020), dyma’u gwefan - www.welshwineweek.co.uk


DIWEDDARIAD

Diolch i bawb am gystadlu yn ein cystadleuaeth Wythnos Gwin Cymru, rydym yn falch o gyhoeddi mae’r enillydd yw Helen Davies, a dyma’r gerdd fuddugol :

Gwinllan Pant Du

Yng nghysgod Eryri

â’i mynyddoedd di-ri,

ym mhentref Pen’groes

cewch Winllan Pant Du.

Traddodiad a chwedlau;

haul Gwynedd â wena

a chusan y Ddraig

ar euraidd ffrwytha’.

Cynhaeaf y grawnwin

oddi tirwedd llawn swyn;

potelu sudd pêr

a chreu llymaid fwyn.


© 2022 Hawlfraint Pant Du. Gwefan gan Delwedd