Swper a Sgwrs
Llogi ystafell ar gyfer sefydliad neu grŵp
Mae posib i sefydliad neu grŵp logi Neuadd Pant Du gyda’r nos.
Gall y sefydliad drefnu sgwrs neu gyflwyniad gan unigolyn o’u dewis, i ddilyn gyda swper ysgafn wedi ei ddarparu gan Pant Du.
Yn ddiweddar cynhaliwyd noson hwyliog gan Glwb Merched y Gest, swper i ddilyn gydag adloniant gan Dafydd Iwan.
Enghreifftiau eraill o nosweithiau yw, “Cwis Hwyl Cenedlaethol” Merched y Wawr, cafwyd pryd dau gwrs, i ddilyn gyda chwis.
I drafod ymhellach, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. E-bost post@pantdu.co.uk