Nadolig 2020
Cinio Nadolig, Te Prynhawn, anrhegion Nadolig, tocynnau rhodd a llawer mwy.
Wrth i’r Nadolig nesáu, byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes yn Pant Du.
Rydym ar agor o 10:30am i 4:30pm, bob diwrnod hyd at 23/12/2020.
Byddwn yn gweini prydau cynnes, cacennau cartref, cinio Nadolig,
te prynhawn, yn ogystal ag anrhegion Nadolig, tocynnau rhodd a llawer mwy.
🎄 TE PRYNHAWN NADOLIGAIDD 🎄
Dewch ynghyd i ddathlu, a mwynhau Te Prynhawn Nadoligaidd.
Ar gael o 2:30 yn ystod yr wythnos, ac o 3:00 ar y penwythnos.
Cysylltwch o flaen llaw i archebu lle - Archebu Bwrdd (gan nodi unrhyw anghenion diet).
🎄 CINIO NADOLIG 🎄
Byddwn yn gweini Cinio Nadolig dydd Iau, Gwener a Sul.
Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio cynhwysion ffres, a chig o’r ansawdd flaenaf, ynghyd â gwasanaeth anffurfiol cyfeillgar.
DYDD SUL
Tarwch olwg ar y fwydlen fydd yn cael ei chynnig ar ddyddiau Sul - Bwydlen Cinio Sul Nadolig 2020.
Cysylltwch o flaen llaw i archebu bwrdd - Archebu Bwrdd.
DYDD IAU A GWENER
Dyma’r fwydlen fydd yn cael ei chynnig yn ystod dydd Iau a Gwener - Bwydlen Nadolig Iau a Gwener.
Mae gofyn talu blaendal o £5 y pen o flaen llaw os ydych chi’n dŵad ar ddydd Iau a Gwener, manylion llawn i’w gweld yn y telerau ac amodau
🎄 SIOP - ANRHEGION NADOLIG 🎄
Mae’n holl gynhyrchion unigryw Cymreig ar gael i’w prynu o’r Siop, mae gennym ddigon o ddewis o anrhegion Nadolig, o boteli unigol, i becynnau anrheg, hamperi a thocynnau rhodd.
🎄 SIOP AR-LEIN 🎄
Mae’r cynhyrchion, pecynnau anrheg, a’r tocynnau rhodd hefyd ar gael i’w prynu oddi ar ein Siop ar Lein, ac yn cael eu danfon yn ddiogel i’ch drws.
