Egni Solar
Y winllan a’r berllan gyntaf yng Nghymru i redeg oddi ar egni solar
Nod Pant Du yw bod yn gwbl hunan gynaliadwy. Rydym yn falch o fod y winllan a’r berllan gyntaf yng Nghymru i redeg oddi ar egni solar.
Mae dwy ffynnon yn darparu’r holl ddŵr sydd ei angen ar gyfer dyfrio, yfed ac o fewn yr adeilad prosesu seidr. Mae 44 o baneli solar wedi eu gosod ar y do’r caffi a’r adeilad prosesu, yn wynebu am y de, yn trosi ynni o’r haul i gynhyrchu’r holl drydan sydd ei angen i redeg yr adeiladau, a’r offer tu mewn, yn ogystal â darparu trydan dros ben i’r grid cenedlaethol.
Mae’r paneli solar yn cynhyrchu hyd at 12 kilowat o bŵer, gyda’r mwyafrif o’r trydan yn cael ei gynhyrchu yn ystod misoedd yr haf.
Yn ogystal â’r offer o fewn yr adeiladau, mae’r trydan a gynhyrchir hefyd yn darparu pŵer ar gyfer car trydan Tesla, a ddefnyddir ar gyfer dosbarthu cynnyrch Pant Du, a hefyd i bwerau peiriannau batri Bosch a ddefnyddir ar gyfer torri gwair a thocio gwrychoedd.
Mae 3 pwynt gwefru Tesla ar gyfer gwefru ceir trydan i gwsmeriaid Tŷ Bwyta Pant.
