Casglu'r grawnwin
Hydref 2022
Mae hi’n fis Hydref, ac yn dymor cyneuafu, tymor prysur iawn yn y winllan.
Gyda help gwirfoddolwyr mae’r grawnwin Rondo bellach i gyd wedi eu casglu (diolch o galon am holl help y gwirfoddolwyr).
Yn ffodus, bu i’r tywydd aros yn sych drwy’r dydd, a cafwyd diwrnod hwyliog yn casglu’r cnwd.
Mae’r grawnwin wedi teithio i windy Three Choirs yn Newent, Gloucestershire erbyn hyn. Ni fyddwn yn gweld y grawnwin eto, tan tua fis mis Medi 2023, ble byddant wedi eu potelu yn win, ac blasu’n fendigedig gobeithio!
Iechyd Da!