Eistedd allan, patio Ty Bwyta
Sudd afal yn Pant Du
hufen ia i gwn
Brownie Siocled yn Pant Du

ORIAU AGOR

10am - 4:30pm, Mercher i Sul.

(Ar gau Llun a Mawrth)


NADOLIG

Ar gau Rhagfyr 23ain, hyd at Ionawr 7fed 2025.

Ail Agor dydd Mercher, Ionawr 8fed 2025.

Ty Bwyta | Bar

BWYDLEN

Sgroliwch i lawr i ddarllen am De Prynhawn, Cinio Sul, Brecwast, a dathliadau yn Pant Du

Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.

Cewch ddewis gwych o brydau cartref poeth ac oer ar y fwydlen, yn ogystal â detholiad o brydau plant, a chacennau cartref blasus. Mae Pant Du yn falch o gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol.

Yn ychwanegol at win, gwin pefriog, seidr, a sudd afal Pant Du mae dewis eang o ddiodydd meddal, neu lager drafft oer, dewis o gwrw lleol Cymreig, a gwinoedd safonol o bob cwr o’r byd.

Mae digon o fyrddau i eistedd tu mewn neu du allan ar y patio ac yn yr ardd. Lleoliad perffaith ar gyfer cymdeithasu a mwynhau mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar.

Ardal Chwarae - Mae ardal chwarae allan i ddiddanu’r plant - Lluniau o’r Ardal Chwarae

Cŵn - Rydym yn croesawu cŵn tu allan ar y patio / gardd ar dennyn, (ddim tu mewn yr adeilad).

Rydym yn argymell i archebu bwrdd o flaen llaw, rhag cael eich siomi.

TE PRYNHAWN

Beth am fwynhau Te Prynhawn gyda ffrind arbennig yn Pant Du.

Detholiad o frechdanau a baratowyd yn ffres, sgons cartref gyda hufen a jam, a detholiad o gacennau amrywiol.

Gweinir o : 2:30 yn ystod yr wythnos / 3:00 Sadwrn a Sul.

Rhaid archebu lle o flaen llaw, gadewch i ni wybod os oes gennych anghenion diet.*

Bwydlen yn newid yn dymhorol.

“BWYDLEN”

Dim problem darparu ar gyfer plant, gallwn gynnig Te Prynhawn Bach, mae’n cynnwys un math o frechdan (ham, caws neu jam) gyda chreision tedis, i bwdin mae dwy gacen fach a hufen ia, £10.00 y pen. Holwch wrth archebu.

Os hoffech roi rhodd i ffrind neu aelod o’r teulu rydym yn cynnig Tocyn Rhodd ar gyfer y Tê Prynhawn yma.

*Rydym yn paratoi’r cynhyrchion yn ffres yn y bore. Os bydd yn rhaid i chi ganslo, bydd angen gadael i ni wybod 24 awr o flaen llaw os gwelwch yn dda. Os nad ydych yn ein ffonio i’n hysbysu 24 awr cyn eich archeb byddwn yn codi yn llawn. Ar gyfer grwpiau o 10+ gweler ein telerau isod. Diolch am eich dealltwriaeth.

CINIO SUL

Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio cynhwysion ffres, a chig o’r ansawdd flaenaf gan Gigydd Wavells yn Llanrug, ynghyd â gwasanaeth anffurfiol cyfeillgar.

BWYDLEN CINIO SUL

BRECWAST

Rydym yn cynnig Brecwast Cymreig Llawn o 10:00 hyd at 11:30 Mercher i Sul.

Bydd angen archebu bwrdd er mwyn sicrhau eich archeb (yn enwedig ar foreuau Sul, oherwydd prysurdeb y Cinio Sul).

O frecwast llawn, i frecwast llysieuol, bynsen gyrains, bîns ar dost, mae rhywbeth at ddant pawb.

CACENNAU

Rydym yn paratoi amryw o gacennau yn ffres bob bore, os ydych chi’n cynnal dathliad yn Pant Du, mae posib archebu un o’n cacennau ar gyfer eich dathliad. Dyma restr o’r blasau gwahanol y gellir eu harchebu - Cacennau Pant Du.

Os ydych am ddŵad â chacen eich hunain i mewn ar gyfer dathliad yn ystod yr oriau’r Tŷ Bwyta, bydd ffi ‘cakeage’ - Polisi ‘Cakeage’.

DATHLIAD

Mae croeso i chi gynnal dathliad yn ystod oriau agor y Tŷ Bwyta, ond mae’n rhaid i ni gysidro cwsmeriaid eraill o fewn yr ystafell ac oherwydd hyn mae gennym - Delerau Partion / Dathliadau .

TELERAU AC AMODAU

Telerau ac Amodau Blaendal


Mwy luniau o’r Tŷ Bwyta a’r bwydydd i’w gweld yn y Galeri. .

Ein Cafe a Bar yn Pant Du
cacen lemon
Cacen Siocled
Tu allan i Pant Du
Paned dda yn Pant Du
Tu mewn i'r caffi yn Pant Du
Cwn yn cael eistedd tu allan

Cysylltu


Pant Du

Ffordd Y Sir, Penygroes, Gwynedd, LL54 6HE [swyddfa ar gau Llun a Mawrth]

01286 881819 | post@pantdu.co.uk

© 2022 Hawlfraint Pant Du. Gwefan gan Delwedd