Priodi
Lleoliad
Wedi ei leoli ar lethrau Dyffryn Nantlle, yng ngolwg yr Wyddfa, mynyddoedd yr Eifl a glannau Bae Caernarfon mae Gwinllan a Pherllan Pant Du yn cynnig profiad unigryw i ddathlu eich diwrnod priodas.
Mae’r rhesi o rawnwin a choed afalau ynghyd a’r mynyddoedd trawiadol yn y pellter yn gefndir delfrydol i’ch diwrnod priodasol.
Yr Ystafell Fawr
Gallwn ddarparu ar gyfer oddeutu 85 o westeion yn ystod y dydd a hyd at 120 o westeion gyda’r nos yn Neuadd Pant Du. Gellir mwynhau golygfeydd panoramig o Ddyffryn Nantlle o ffenestri gwydr y Neuadd, â golygfeydd trawiadol o’r Wyddfa, ac ardal o harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri. I’r gorllewin, tu hwnt i’r winllan a’r dyffryn mae’r tir yn codi yn glytwaith o ffermydd, caeau a choedwigoedd hyd at gopa’r Eifl.
Gyda’r haul yn machlud dros fae Caernarfon mae lliwiau gogoneddus i’w gweld ar y gorwel. Mae harddwch o’r fath, yn olygfa drawiadol ar gyfer lluniau priodas bythgofiadwy.