Covid-19

Ail-agor dydd Llun, 9fed o Dachwedd.

Diolch o galon i chi am eich dealltwriaeth a chefnogaeth dros y misoedd diwethaf.⠀

Rydym yn ffodus iawn yn Pant Du i gael digon o le yn y caffi a hefyd y tu allan ar y patio ac yn yr ardd. Rydym wedi symud y byrddau yn y caffi a thu allan i ganiatáu digon o le rhyngddynt.

Hoffem sicrhau mai eich diogelwch chi, ein cwsmeriaid, a diogelwch ein staff yw ein blaenoriaeth.

Oherwydd llai o fyrddau, rydym yn argymell i archebu bwrdd o flaen llaw. Llenwch y ffurflen Archebu Bwrdd, neu ffoniwch ni ar 01286 881819. Bydd y byrddau ar gael am uchafswm o 2 awr.


Rheolau’r Llywodraeth

O amgylch un bwrdd “dim ond grwpiau o hyd at 4 o bobl a ganiateir (heb gynnwys plant o dan 11 oed) oni bai eu bod i gyd o’r un aelwyd. Os yw pawb yn byw gyda’i gilydd, caiff mwy na 4 fod yn y grŵp.”


Er mwyn sicrhau eich bod yn mwynhau’ch ymweliad gofynnwn ichi arsylwi’r canlynol:

CYRRAEDD

Sicrhewch fod gennych fasg wyneb cyn i chi ddod i mewn i’r adeilad. (Ni fydd angen masg wyneb arnoch unwaith y byddwch yn eistedd.)

Wrth ddod i mewn defnyddiwch y glanweithydd dwylo sydd wrth y fynedfa.

Mae gennym system un ffordd ar waith.

Bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi, a holi rhai manylion cyswllt, cyn mynd â chi at eich bwrdd. (Mae’n ofynnol i ni gadw manylion cyswllt ar gyfer ein holl gwsmeriaid am 21 diwrnod yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, i gynorthwyo gwasanaethau olrhain y GIG.

Dilynwch fesurau pellhau cymdeithasol.

Sylwch ar y marciau llawr a’r canllawiau eistedd.

Bydd angen gwisgo masg wyneb pryd bynnag na fyddwch chi’n eistedd wrth eich bwrdd, hynny yw, i fynd i’r toiled ac i’r siop.

DIGYSWLLT

Er mwyn lleihau pwyntiau cyffwrdd, defnyddiwch daliadau digyswllt os yn bosibl.

YCHWANEGOL

Mae prosesau glanhau ychwanegol ar waith er diogelwch pawb.

Mae cyfleusterau toiled ar gael ac yn cael eu gwirio a’u diheintio yn rheolaidd yn ystod y dydd.

Mae nifer y staff yn y gegin wedi gostwng er mwyn caniatáu pellter diogel.

Bydd staff blaen tŷ yn gwisgo masgiau.

Defnyddiwch y peiriannau glanweithdra dwylo sydd ar gael ar draws y Bwyty.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, siaradwch ag aelod o staff.

Mae pethau’n mynd i fod ychydig yn wahanol, diolch i chi am eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

Edrychwn ymlaen yn arw i’ch croesawu yn ôl.


© 2022 Hawlfraint Pant Du. Gwefan gan Delwedd