Ail Agor
Ebrill 26ain
Yn dilyn cyhoeddiad Llwodraeth Cymru, o Ebrill 26ain ymlaen bydd caniatád i fusnesau letygarwch agor yn yr awyr agored.
Diolch o galon am eich dealltwriaeth dros y misoedd diwethaf. Rydym yn edrych ymlaen yn arw i’ch croeswy’n ôl.
Hoffem sicrhau mai eich diogelwch chi, ein cwsmeriaid, a diogelwch ein staff yw ein blaenoriaeth.
Byrddau ar gael tu allan - Oherwydd llai o fyrddau, rydym yn argymell i archebu bwrdd o flaen llaw. Llenwch y ffurflen Archebu Bwrdd, neu ffoniwch ni ar 01286 881819. Bydd y byrddau ar gael am uchafswm o 2 awr.
Er mwyn sicrhau eich bod yn mwynhau’ch ymweliad gofynnwn ichi arsylwi’r canlynol:
CYRRAEDD
Sicrhewch fod gennych fasg wyneb. (Ni fydd angen gwisgo masg wyneb arnoch unwaith y byddwch yn eistedd.)
Bydd aelod o’r tîm yn cwrdd â chi, a holi rhai manylion cyswllt, cyn mynd â chi at eich bwrdd.
Dilynwch fesurau pellhau cymdeithasol.
Sylwch ar y marciau llawr a’r canllawiau eistedd.
Bydd angen gwisgo masg wyneb pryd bynnag na fyddwch chi’n eistedd wrth eich bwrdd, hynny yw, i fynd i’r toiled ac i’r siop.
DIGYSWLLT
Er mwyn lleihau pwyntiau cyffwrdd, defnyddiwch daliadau digyswllt os yn bosibl.
YCHWANEGOL
Mae prosesau glanhau ychwanegol ar waith er diogelwch pawb.
Mae nifer y staff yn y gegin wedi gostwng er mwyn caniatáu pellter diogel.
Bydd staff blaen tŷ yn gwisgo masgiau.
Defnyddiwch y peiriannau glanweithdra dwylo sydd ar gael.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, siaradwch ag aelod o staff.
Mae pethau’n mynd i fod ychydig yn wahanol, diolch i chi am eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.
Edrychwn ymlaen yn arw i’ch croesawu yn ôl.