CYNNYRCH

Gwinllan a Pherllan deuluol yw Pant Du, a sefydlwyd yn 2007 gan Richard ac Iola Huws. Mae cynnyrch Pant Du yn cynnwys Gwin, Seidr, Sudd Afal, Dwr Ffynnon, a Mêl. Dros y blynyddoedd mae Pant Du wedi ennill nifer o wobrau am eu cynnyrch.

Mae 9 acer o winwydd, a 18 acer o goed afalau wedi eu plannu ar dir y fferm, gan drawsnewid llethrau Dyffryn Nantlle.

Mae cynnyrch Pant Du ar gael i’w brynu o’r siop fechan yn y Ty Bwyta, ac ar y Siop ar Lein.


Gwin

Mae 6 gwahanol fath o winwydd wedi eu plannu ar lethrau Pant Du - Seyval Blanc, Sigrrebe, Souvignon Blanc, Pinot Noir, Frühburgunder / Pinot Noir cynnar, Rondo. Dewiswyd y mathau arbennig hyn o rawnwin yn benodol i weithio’n dda gyda’r pridd a’r amodau hinsawdd yma yng Ngogledd Cymru. Cynhyrchir gwin Gwyn, Coch a Rhosliw.

Nodau Blasu

Gwyn - gwin gwyn sych, ffrwythlon ac ysgafn, gyda arogl blodau ysgaw. Ar y palet, afal gwyrdd â mymryn o sitrws.

Coch - ysgafn iawn, arogl ffrwythlon cryf o ffrwythau aeron coch. Isel mewn tannin. Hawdd i’w yfed, blasau ffrwythau haf.

Rhosliw - llawn blas ffrwythau’r haf, ac arogl mefus.

Ein gwin ar gael yn Pant Du
Seidr ar gael genym yn Pant Du

SEIDR

Mae 3,200 o goed afalau wedi eu plannu ym mherllan Pant Du, 2,000 ohonynt yn afalau seidr traddodiadol a’r gweddill yn afalau Cymreig cynhenid.

Mae Seidr Pant Du yn cael ei wasgu o afalau seidr traddodiadol ac amrywiaeth o afalau cynhenid Cymreig. Y canlyniad yw seidr crefft pur, ffres a ffrwythlon, yn llawn blas afal naturiol.

Mae Pant Du yn cynhyrchu 5 math o Seidr - Sych a Cymharol Sych, yn ogystal a Seidr blas Riwbob; Ffrwythau Gwyllt; a Ffrwyth Cariad a Leim.

SUDD AFAL

Mae 700 o’r coed afalau Cymreig sydd wedi eu plannu ym mherllan Pant Du yn goed Afalau Enlli, coeden afal oedd ar un cyfnod bron wedi diflannu. Drwy blannu gymaint o goed mae Pant Du yn cyfrannu at barhad a datblygiad yr afal hanesyddol hwn o Lyn.

Mae Pant Du yn cynhyrchu 3 math o sudd afal, cymysgedd o afalau mewn dull Llonydd, a dull Pefriog a math sengl Afal Enlli.

Sudd Afal ar gael yn Pant Du
DWR FFYNNON ar gael o pant Du

DWR FFYNNON

Mae’r dwr yn cael ei hidlo yn naturiol wrth iddo deithio drwy’r creigiau cyn-gambriaidd sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed; oherwydd hynny mae’r dwr yn eithriadol o bur a naturiol.

Mae’r dwr yn gytbwys mewn mineralau; Isel mewn sodiwm; a gyda pH perffaith o 7.35 - y lefel delfrydol ar gyfer y corff.

MÊL

Cynhyrchwyd y pot Mêl cyntaf yn 2017.

Mae’r gwenyn yn gweithio’n brysur drwy’r Gwanwyn yn hedfan rhwng blodau’r coed afalau yn casglu neithdar, i gynhyrchu’r mêl.

Mae’r broses yma gan y gwenyn yn trosglwyddo paill o un goeden afal i’r llall, proses sydd yn hollbwysig i gynhyrchu afalau ar gyfer y Seidr a’r Sudd Afal.

MÊL ar gael yn Pant Du

Cysylltu


Pant Du

Ffordd Y Sir, Penygroes, Gwynedd, LL54 6HE [swyddfa ar gau Llun a Mawrth]

01286 881819 | post@pantdu.co.uk

© 2022 Hawlfraint Pant Du. Gwefan gan Delwedd